Y Bwthyn
Manylion y Llety
Mae’r bwthyn (Tandisgwylfa) yn cysgu 7 (a baban ychwanegol) mewn 4 ystafell wely a 2 ystafell ymolchi. Mae lloriau pren trwy’r bwthyn i gyd. Mae sawl nodwedd gwreiddiol yn y bwthyn megis waliau cerrig, pren y nenfwd ar ddangos, a lle tân agored hardd.

Ffeithiau allweddol.
- Ar y prif heol sydd yn hawdd i fynd allan a chwilota.
- Yn cynnwys un fasged o bren i’r tân - gellir prynu mwy yn lleol.
- Offer i blant / babanod (gwelir isod)
- Wifi yn rhad ac am ddim
- Dim ysmygu
- Dim anifeiliaid anwes
- Yn cynnwys dillad gwely a thywelion (nid tywelion traeth)
- Yn cynnwys gwres canolog a thrydan.
LLAWR GWAELOD
Ystafell ddwbl gydag ystafell ymolchi
Ystafell wely fawr, teledu digidol. Yn ddelfrydol ar gyfer mynediad haws. Drysau patio yn agor i’r ardal barcio. Mae digon o le i storio eich eiddo. Mae ystafell ymolchi gyda chawod ar wahan (cawod pwerus), bath “spa” gyda chawod uwchben. Mae periant sychu gwallt hefyd.
Ystafell fwyta/Lolfa
Ystafell fawr a chroesawgar gyda lle tân, soffa a chadeiriau cyfforddus, bord fwyta a 8 cadair. Teledu digidol a bocs “You View” er mwyn recordio rhaglenni. Mae peiriant DVD hefyd a dewis o DVDs i’r teulu a phlant. Mae gemau a llyfrau yn y lolfa.
Cegin
- Stôf Rangemaster
- Microdon
- Oergell
- Rhewgell
- Periant golchi llestri
- Periant golchi dillad
- Tegell a chraswr
- Pethau angenrheidiol i’r gegin - tabledi i’r periant golchi llestri, hylif golchi llestri, lliain llestri, menig ffwrn.
- Pethau angenrheidiol i goginio -olew, halen, pupur, te, coffi, siwgr.
Mae’r boeler gwres canolog yn y gegin. Mae haearn a bwrdd smwddio yn y cwtch dan stâr.
LAN LLOFFT
Ystafell gawod i’r teulu
Yn cael ei hadnewyddu ar hyn o bryd - lluniau i’w dilyn.
Ystafell wely ddwbl
Golygu hyfryd dros y caeau i’r môr yn y pellter. Digon o le yn y cwpbwrdd dillad ac offer babanod / plant os oes eisiau.
Ystafell wely sengl
Gyda golygfa i’r môr yn y pellter.
Ystafell wely pâr
Golygfeydd dros yr ardd flaen ac i lawr yr arfordir.
TU ALLAN
O’r lolfa mae’r drws i’r ardd fach, ddiogel gyda lawnt. I’r cefn mae lein sychu dillad, lle i barcio 4 /5 car a blodau i’r ochrau. Yn y sied mae barbeciw, bord gemau a’r itemau i’r traeth.
I blant / babanod:
- Cadair uchel a hambwrdd i ffitio i gadair fwyta
- Cot teithio (dewch â dillad i hwnna ogd)
- Teclyn i ddiolgelu plant rhag cwympo o’r gwely
- Gât grisiau
- Potty a “step stool”
- Cyllyll a ffyrc plastig, cwpanau
- Gemau, DVDs a llyfrau